Carchar newydd (llun cyfrifiadur)
Mae ymchwilydd yn dweud na fydd codi carchar mawr yn Wrecsam yn dod â dim byd tebyg i 1,000 o swyddi i’r ardal.

Fe fydd rhaid dod  â swyddogion i mewn i’r ardal, meddai’r myfyriwr PhD Robert Jones o sy’n arbenigo yn y maes, a dyw carcharorion ddim yn creu busnes i fusnesau eraill cyfagos.

“Mae sôn am 1,000 o swyddi yn gamarweiniol,” meddai’r myfyriwr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. “Mae yna well ffyrdd o helpu economi Wrecsam.”

Amheuon mawr

Mewn adroddiad i’r Sefydliad Materion Cymreig, mae Robert Jones yn dweud nad oes neb wedi ystyried o ddifri a yw’r addewidion swyddi’n gywir.

Roedd astudiaethau eraill yn codi amheuon mawr, gan ddangos fod gweithwyr carchar yn fodlon teithio’n gymharol bell i’w gwaith – ac mae’r safle yn Wrecsam o fewn pum milltir i’r ffin â Lloegr.

Mae’n dadlau y byddai’n rhaid dod â phrif swyddogion profiadol i mewn i sefydlu’r carchar – yn llywodraethwyr, penaethiaid adrannau, staff ysbyty ac ail sefydlu carcharorion.

Roedd yn sôn am dref yn America lle’r oedd addewidion wedi eu gwneud am 750 o swyddi mewn carchar newydd – roedd llai na 100 o’r rheiny’n rhai lleol, meddai.

Creu cyfleoedd meddai’r Llywodraeth

Mae Llywodraeth Prydain yn mynnu y bydd y carchar yn creu cyfleoedd newydd, gan gynnwys rhai adeiladu ar y dechrau.

Yr wythnos ddiwetha’, roedd Ysgrifennydd Cymru wedi sôn eto am 1,000 o swyddi ac roedd gwleidyddion o bob plaid wedi pwyso am y datblygiad.

Rhan o’r ddadl yw y byddai’n rhoi lle’n nes at gartre’ i garcharorion o ogledd Cymru.