Peter Hain
Mae cyn Ysgrifennydd Cymru wedi codi amheuon am y cyhoeddiad y bydd refferendwm ar ddatganoli rhywfaint o dreth incwm i Gymru.

Yn ôl Peter Hain, mae amheuaeth a yw’r grym hwnnw werth ei gael ac mae problemau mawr i’w datrys cyn y bydd yn bosib gweinyddu’r newid.

Fe fydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, yn cyhoeddi’r bleidlais tros roi’r hawl i Lywodraeth Cymru amrywio ychydig ar dreth incwm – fe fyddai’n cael gwerth 10c yn llai o San Steffan ac yn penderfynu sut i gau’r bwlch, os o gwbl.

‘Peryglus’

Ond, fe ddywedodd Peter Hain wrth Radio Wales y gallai hynny fod yn beryglus heb i Gymru gael chwarae teg o dan drefn gyllido, Fformiwla Barnett.

“Os ydych chi’n mynd i ddatganoli treth incwm, mae hynny’n golygu torri’r grant bloc i Gymru ac fe allai hynny fod yn sleisen anferth,” meddai.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwrthwynebu’r syniad o ddatganoli treth incwm, cyn cael tegwch o dan Barnett.

Y ddadl yw fod y Fformiwla’n hen ffasiwn ac heb ymateb i newidiadau yn yr economi – o ganlyniad, meddai’r beirniaid, mae’r Alban yn cael mwy na’i siâr a Chymru’n cael llai.