Ysbyty Neuadd Nevill - lle gwelwyd y camgymeriad (Llun: Bwrdd Iechyd)
Mae Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymddiheuriad diamod i ddynes ar ôl dweud yn anghywir ei bod wedi colli ei babi yn y groth.
Ac mae Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru wedi condemnio Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ar ôl y camgymeriad gan Ysbyty’r Brifysgol yn y brifddinas.
Doedd bydwragedd yno ddim wedi dilyn y drefn, meddai Peter Tyndall, a doedden nhw ddim wedi cynnal yr holl brofion oedd eu hangen.
Mae’r Bwrdd wedi cydnabod bod y drefn anghywir wedi’i dilyn tros chwe blynedd.
Beth ddigwyddodd
- Roedd y fam ifanc wedi cael y profion pan oedd hi’n feichiog ers deng wythnos.
- Fe ddywedodd staff yr ysbyty yng Nghaerdydd ei bod wedi erthylu ac y byddai’n rhaid iddi gael triniaeth at hynny.
- Fe ddewisodd gael y driniaeth yn Ysbyty Neuadd Nevill yn y Fenni.
- Cyn ei thrin, fe gynhaliodd staff yno brawf pellach a sylweddoli bod calon y babi’n curo.
- Bellach mae’r wraig wedi cael plentyn, a hwnnw’n holliach.
‘Gofid’
Fe gyfaddefodd y Bwrdd Iechyd eu bod wedi achosi gofid mawr i’r fam ac maen nhw wedi ymddiheuro’n ddiamod.
Fe ddywedodd llefarydd eu bod wedi diweddaru eu holl drefniadau ac wedi edrych ar alluoedd a pherfformiad pob aelod o staff perthnasol.
Maen nhw wedi cyhoeddi rhif arbennig ar gyfer merched a allai fod yn poeni am y driniaeth a gawson nhwthau yn yr ysbyty – 0800 952 0244.