Babi P
Mae adroddiadau ar y cyfryngau fod mam babi P, a gafodd ei charcharu am achosi ei farwolaeth, wedi cael ei rhyddhau.

Fe fu farw Peter Connelly – a oedd yn cael ei alw’n Babi P ar y pryd – yn 17 mis oed yn ei gartref yn Tottenham, Llundain, yn Awst 2007 gyda mwy na 50 o anafiadau ar ei gorff.

Ar y pryd roedd ar gofrestr beryg y cyngor lleol, Cyngor Haringey, ac roedd gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu, a gweithwyr iechyd wedi ymweld ag ef 60 o weithiau.

Roedd ei fam, Tracey Connelly, ei chariad, Steven Barker, a’u lletywr Jason Owen wedi eu cael yn euog o achosi marwolaeth plentyn.

Cafodd Tracey Connelly ei rhoi dan glo am bum mlynedd yn 2009 wedi iddi dreulio blwyddyn mewn canolfan gadw cyn cael ei charcharu.

Sharon Shoesmith

Yn gynharach yr wythnos hon roedd cyn-bennaeth adran amddiffyn plant Cyngor Haringey wedi derbyn setliad am gael ei diswyddo’n annheg yn dilyn achos Peter Connelly.

Gallai Sharon Shoesmith dderbyn “hyd at £600,000” yn ôl adroddiadau yn y wasg.

Cafodd ei diswyddo heb iawndal gan y cyngor yn Rhagfyr 2008 yn dilyn adroddiad beirniadol are i hadran gan Ofsted ac ymyrraeth y gweinidog gwasanaethau cymdeithasol, Ed Balls.

Ym Mai 2011 penderfynodd Y Llys Apêl fod Sharon Shoesmith wedi cael ei diswyddo’n annheg am nad oedd Ed Balls na’r cyngor wedi rhoi cyfle digonol iddi amddiffyn ei hun.