Mae’r adroddiad cyntaf i ganolbwyntio ar driniaeth strôc yng Nghymru, yn cadarnhau fod camau bras mewn lle i wella safon y driniaeth ond hefyd fod lle sylweddol i wella er mwyn cyrraedd yr un safon â gweddill Ewrop.
Llywodraeth Cymru sydd wedi cyhoeddi’r adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford heddiw, yn ystod agoriad swyddogol Canolfan Adsefydlu Strôc yn Ysbyty Llandochau.
Mae’r ganolfan newydd, gwerth £11 miliwn, yn cael ei hagor i nodi ei bod hi’n ddiwrnod Strôc y Byd heddiw.
Ymosodiad ar yr ymennydd yw strôc, sy’n digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o’r ymennydd yn cael ei atal. Yn ôl ystadegau gan y Gymdeithas Strôc, mae tua 11.000 o bobol yn dioddef o’r cyflwr yng Nghymru yn flynyddol a bydd tua thraean ohonynt yn marw.
Ar gyfartaledd, mae’n achosi 7% o’r marwolaethau mewn dynion a 10% mewn merched.
Cynnwys
Edrychodd yr adroddiad ar dri maes: pa mor aml mae strôc yn digwydd, nifer y marwolaethau o strôc, a pha mor hir mae pobl yn byw ar ôl cael strôc.
Wrth ymateb i gynnwys yr arolwg, dywedodd y Llywodraeth fod yr “adroddiad blynyddol cyntaf yn dangos cynnydd sylweddol ym mhob maes y gellir ei fesur”.
Ond mae’r adroddiad hefyd yn nodi fod cyfradd y marwolaethau o achos strôc yn uwch nag yng ngweddill gwledydd Ewrop.
Yn ôl Mark Drakeford: “Rydyn ni wedi buddsoddi bron i £350,000 yn ystod y tair blynedd diwethaf i gefnogi gwasanaeth Telestrôc y tu allan i oriau ar draws Cymru gyfan.
“Hefyd, rydyn ni wedi canolbwyntio mwy ar thrombolysis, y defnydd o gyffuriau i chwalu clotiau yn y gwaed, sy’n hanfodol bwysig.”
Croeso
Mae Lowri Griffiths, Pennaeth Materion Allanol y Gymdeithas Strôc yng Nghymru wedi croesawu’r adroddiad:
“Mae’r strategaeth bum mlynedd yn disgrifio fframwaith gweithredu uchelgeisiol ac edrychwn ymlaen at weld gwelliannau’n digwydd bob blwyddyn fydd yn adeiladu ar y sylfaen hwn.
“Credwn yn gryf bod uchelgais Llywodraeth Cymru i gefnogi’r GIG i hyrwyddo gwelliant ym maes strôc yn realistig ac yn un y gellir ei chyflawni, ac edrychwn ymlaen at gefnogi’r gymuned strôc yng Nghymru i sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer y rhai sy’n goroesi strôc a’u gofalwyr.”