Bydd yn rhaid i’r cyhoedd fod yn “hynod wyliadwrus a gwybodus” pan fydd diffoddwyr tân yn cynnal streic yn ddiweddarach yn y mis, yn ôl un o brif swyddogion un o wasanaethau tân Cymru.

Mae Undeb y Brigadau Tân wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn bwriadu gweithredu’n ddiwydiannol o  6.30yh tan 11.30 yh ar ddydd Sadwrn 19 Hydref.

Mae’r streic yn caniatáu i unrhyw aelod o’r Undeb i brotestio.

Dywedodd  Rod Hammerton, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei fod  yn ymbil ar gymunedau i “fod yn hynod wyliadwrus a gwybodus” mewn perthynas â diogelwch tân a ffyrdd yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol.

Mae diffoddwyr tan yn gwrthwynebu  cynlluniau’r Llywodraeth bresennol i newid y trefniadau pensiwn cyfredol.

‘Heriol’

Dywedodd  Rod Hammerton: “Tra bod Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn deall pam bod staff yn gweithredu’n ddiwydiannol, mae gan yr awdurdod ddyletswydd ac ymrwymiad i sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau i’r cyhoedd yn parhau heb effaith arnynt, cyhyd ag sy’n ymarferol resymol, yn enwedig lle bydd angen ymateb mewn argyfwng.”

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn derbyn cymorth allanol gan y lluoedd arfog, ond  fe fydd y cymorth hwn yn gyfyngedig i chwe chriw hyfforddedig, ac o ganlyniad i hyn bydd y sefyllfa’n un heriol iawn o ran darparu gwasanaeth i’r cyhoedd, yn ôl Rod Hammerton.