Ailwampio hyfforddiant meddygon mewn ysbytai yw’r allwedd i leihau problemau’r Gwasanaeth Iechyd.

Dyna mae’r meddyg teulu a’r cyn-Aelod Cynulliad Dr Dai Lloyd wedi ei ddweud yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth heddiw.

Mae cyn-Weinidog Cysgodol y Blaid dros Iechyd wedi galw am ‘agwedd newydd’ tuag at y gwasanaeth ac wedi dweud bod angen cyflogi mwy o ddoctoriaid a nyrsus a llai o weinyddwyr.

“Bydd hynny’n rhyddhau meddygon i ganolbwyntio ar eu cleifion yn lle cwrso targedau ar sgrin gyfrifiadurol,” meddai Dr Dai Lloyd.

“Mae siarad am ail-gyflunio ysbytai yn colli’r pwynt – dim ond drwy gynyddu’r nifer o feddygon a’u caniatáu i wneud eu priod waith fydd yn tynnu’r pwysau oddi ar ein hysbytai.”

Moderneiddio

Dywedodd Elin Jones, AC lleol Ceredigion a llefarydd y Blaid ar Iechyd, wrth y Gynhadledd fod angen “gwasanaeth iechyd mwy cyfoes a chraff”.

“Ni all ein Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru fod yn greadur sy’n perthyn i’r ganrif ddiwethaf, rhaid ei addasu a’i foderneiddio ar gyfer yr 21ain ganrif.

“Hoffwn weld Gwasanaeth Iechyd di-bapur. Hoffwn iddi fod cyn hawsed i drefnu apwyntiad doctor ag yw hi i archebu ystafell mewn gwesty yn Bangkok,” meddai.

Arweiniad

Yn ôl Dr Lloyd, mae 90% o gleifion yn cael eu trin mewn “gofal cynradd” ac mae angen i wleidyddion roi’r gorau i feirniadu a meddwl am ad-drefnu ysbytai, fel sy’n digwydd yn Lloegr.

“Dylai anghenion cleifion ddod o flaen cyfrifon ariannol – pam dioddef toriadau mewn gwasanaethau cleifion ac ysbytai yn lle torri cyflogau Prif Weithredwyr a’r fiwrocratiaeth?

“Mae’r nifer cynyddol o hen bobl yn dystiolaeth i lwyddiant y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Beth sydd ei angen yw arweinyddiaeth feddygol gref, nid comisiynu doctoriaid, na phreifateiddio’r gwasanaeth yng Nghymru.”