Fukuoka
Mae 10 o bobol wedi marw mewn tân mewn ysbyty yn ne Japan

Dywedodd heddlu Fukuoka bod wyth arall wedi eu hanafu yn yr ysbyty orthopaedic. Mae’n debyg eu bod yn cysgu pan gydiodd y fflamau.

Bu i’r tân losgi’r rhan fwyaf o’r adeilad, yn ôl un o swyddogion adran dân dinas Fukuoka.

Ni chafodd y drysau tân ar ail a thrydydd llawr yr adeilad eu defnyddio’n iawn, yn ôl un arall o’r swyddogion.