Wrth i gyfranddaliadau’r Post Brenhinol fynd ar werth ar y farchnad stoc heddiw, mae eu gwerth wedi codi 36%.
Mae’r prisiau wedi cynyddu o £3.30 i £4.50, sy’n codi gwerth y cwmni fwy nag £1 biliwn.
Bu galw mawr am y cyfranddaliadau gyda 700,000 o’r cyhoedd yn gwneud cais i brynu cyfran o’r Post Brenhinol. Fe gyhoeddodd y Llywodraeth ddoe bod y bobol a wnaeth gais rhwng yr isafswm o £750 a’r uchafswm o £10,000 am dderbyn gwerth £749.10 yr un.
Eisoes mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd 10% o’r cyfranddaliadau’n cael eu rhoi i 150,000 o weithwyr y Post Brenhinol
Protest
Bydd protestwyr yn ymgasglu tu allan i adeilad y Gyfnewidfa Stoc yn Llundain heddiw, wedi eu gwisgo fel lladron, i wrthwynebu’r penderfyniad dadleuol i breifateiddio’r Post Brenhinol.
Mae gweithwyr y Post yn pleidleisio dros fynd ar streic ynglŷn â’r preifateiddio ac mae’r Llywodraeth yn cael ei chyhuddo o danbrisio’r cwmni.