Nid yw canllawiau diwygiedig TAN20 yn mynd yn ddigon pell ac maen nhw’n llawn gwendidau, yn ôl Cymdeithas yr Iaith a rhai pleidiau.
Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad o’r Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20, sef canllawiau ar sut y dylid ystyried y Gymraeg fel rhan o’r system gynllunio.
Wrth gyflwyno’r TAN 20 diwygiedig, dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio Carl Sargeant: “Mae’r canllawiau yn golygu bod rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sydd wedi nodi bod yr iaith yn bwysig yn lleol ystyried y Gymraeg fel rhan o’u Cynlluniau Datblygu Lleol yn y dyfodol. Bydd rhaid iddyn nhw hefyd ymgynghori â’r Comisiynydd Iaith wrth baratoi ac adolygu’r Cynllun.
“Fel hyn, bydd awdurdodau cynllunio yn gallu defnyddio eu Cynlluniau Datblygu Lleol i liniaru’r effaith y gallai datblygiadau newydd ei chael ar y Gymraeg.”
‘Gwendidau’
Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod “gwendidau” cyngor newydd TAN 20 yn dangos bod angen newidiadau llawer mwy pellgyrhaeddol i’r system gynllunio.
Dywed y nodyn technegol: “Ni ddylid cynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg gan y byddai hynny’n dyblygu prosesau dewis safleoedd y [cynllun datblygu lleol].”
Ychwanegodd y mudiad iaith eu bod nhw eisoes wedi gofyn am newidiadau mwy mewn dogfen bolisi a anfonwyd at Carwyn Jones nol ym mis Awst eleni.
‘Asesu ceisiadau unigol ddim yn synhwyrol’ – Carwyn Jones
Dywedodd Cen Llwyd, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Byddwn ni’n ystyried y nodyn newydd yn fanwl, ond mae’r gwendidau ynddo fe yn dangos angen difrifol am newidiadau mwy sylfaenol i’r system gynllunio’n ehangach, a hefyd arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru.
“Mae’r ffaith bod y nodyn yn datgan na ddylai awdurdodau gynnal asesiadau effaith iaith ar geisiadau cynllunio unigol yn rhyfedd iawn. Dyw’r nodyn ddim yn trin y Gymraeg fel iaith i bawb nac i bob rhan o Gymru chwaith.”
Ond ar y Post Cyntaf bore ma, dywedodd Carwyn Jones na fyddai’n “synhwyrol o gwbl” i asesu pob cais unigol a’i effaith ar yr iaith.
‘Dogfen wan’
Yn ôl Alun Ffred Jones, AC Plaid Cymru, mae’r ddogfen yn “wan”.
“Mae’r ffaith na chyhoeddwyd Canllawiau Ymarferol Pellach ochr yn ochr â’r Nodyn Cynghori Technegol yn dweud cyfrolau am ansawdd y TAN hwn.
“Ni ddaw llawer o’r argymhellion i rym am hyd at bedair blynedd yn yr awdurdodau lleol hynny lle cytunwyd ar y CDLl eisoes, ac ni fyddant yn newid.
“Mae’r rhan fwyaf o Nodiadau Cynghori Technegol yn dod i rym yn ymarferol ar unwaith, ond mae hwn yn fwy am broses, a bydd ei weithredu yn dibynnu ar agweddau’r awdurdod lleol tuag at hyrwyddo’r iaith. Dogfen wan yw hi, heb ei chydlynu o gwbl.”
‘Codi cwestiynau’
Mae Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws hefyd wedi beirniadu’r canllawiau gan ddweud eu bod yn codi nifer o gwestiynau.
“Mae datganiad y Gweinidog yn codi nifer o gwestiynau; er enghraifft beth fydd yn digwydd hyd nes bod y ‘canllaw ymarferol pellach’ yn cael ei gyhoeddi? Beth sydd yn digwydd i’r cynlluniau datblygu lleol sydd yn yr arfaeth?
“Byddaf yn mynd ati nawr i drefnu cyfarfod buan gyda’r Gweinidog a’i swyddogion i geisio atebion i’r cwestiynau uchod a mwy.”