Mae swyddogion Heddlu Gwent yn parhau i gloddio ar fferm ger Casnewydd, fel rhan o ymchwiliad i achosion o gaethwasiaeth.

Mae’r cloddio yn digwydd ar dir Cariad Farm yn Peterstone, ar gyrion dinas Casnewydd, wrth i’r heddlu geisio dod o hyd i gorff.

Yr wythnos ddiwetha’, fe ddaeth yr heddlu o hyd i ddyn o wlad Pwyl yn byw dan amodau ofnadwy, ac mae tad a’i ddau fab yn parhau yn y ddalfa wedi eu cyhuddo o droseddau’n ymwneud a chaethwasiaeth.

Mae nifer o gyrchoedd wedi eu cynnal fel rhan o Ymgyrch Imperial, ac mae disgwyl i ganlyniadau’r chwilio yn Peterstone gael eu cyhoeddi o fewn y deuddydd nesa’.