Theresa May
Fe fydd troseddwyr tramor yn cael eu hanfon adref o wledydd Prydain – a hynny cyn y bydd unrhyw apel yn cael ei glywed.

Dyna fwriad y blaid Geidwadol, meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May.

Fe fydd y Mesur Mewnfudo newydd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer delio efo drwgweithredwyr sy’n apelio’n erbyn bwriad y llywodraeth yn Llundain i’w hanfon adref.

Mae cynlluniau’r blaid Geidwadol yn addo gwrando ar apeliadau pan mae’r unigolion wedi gadael gwledydd Prydain.

“Mae angen trwsio ein cyfreithiau hawliau dynol,” meddai Theresa May, “ac fe fydd maniffesto etholiad cyffredinol 2015 yn cynnwys ymlyniad y blaid Geidwadol i sgrapio Deddf Hawliau Dynol Prydain.”