Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood am i Gymru gael ei siâr o fuddiannau’r Post Brenhinol a fyddai’n arwain at sefydlu ‘Post Cymru’.

Rhoi’r Post Brenhinol yn nwylo Llywodraeth Cymru yw’r bwriad. Fe fyddai hyn yn golygu sefydlu busnes a fyddai’n eiddo i’r cyhoedd ac yn cael ei redeg er budd y bobl yn hytrach nag elw.

Yn ymateb i gynlluniau Llywodraeth Prydain i breifateiddio’r gwasanaeth, meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood:

“Mae preifateiddio’r Post Brenhinol yn gam nad oedd hyd yn oed Mrs Thatcher yn barod i’w gymryd ac mae’n siom dirfawr fod gweinidog sy’n Rhyddfrydwr Democrataidd yn gwthio hyn drwodd ar garlam.

“Ond rwyf wedi cynnig ateb ymarferol i sut y gallwn ni yng Nghymru gael ein grymuso i ddilyn ein llwybr ein hunain, yn unol â’n gwerthoedd ni.

Ildio?

Mae Leanne Wood wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Busnes y DG, Vince Cable, yn ei annog i ildio buddiannau post yng Nghymru i Lywodraeth Cymru.

“Gallai gwasanaeth Post Cymru newydd redeg er budd ein cymunedau, gan sicrhau bod gwasanaeth chwe diwrnod, sydd ar gael i bawb, yn parhau.”

Bydd y Blaid yn lansio deiseb ar-lein ‘Post Cymru – Post i Gymru’.