Llys y Goron Caernarfon
Mae dyn fu’n cam-drin plant pan oedd yn gwybod yn iawn ei fod yn HIV positif, wedi ei garcharu am ddeng mlynedd yn Llys y Goron Caernarfon.

Fe blediodd Simon Morris Jones, 36 oed ac o’r gogledd orllwein, yn euog i 15 o gyhuddiadau yn cynnwys treisio, cyffwrdd rhywiol a gweithredu’n rhywiol gyda phlentyn.

Yn ôl y Barnwr Keith Thomas roedd yn “ddifrifol iawn” bod y diffynnydd yn gwybod fod ganddo HIV.

Bydd Simon Morris Jones ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am weddill ei oes.

Dywedodd yr erlynydd yn yr achos bod y tri bachgen gafodd eu cam-drin wedi eu profi am HIV, a’u bod nhw oll yn rhydd o’r haint.

Yn ôl Sion ap Mihangel, ar ran yr amddiffyn, roedd Simon Morris Jones yn edifarhau’r hyn a wnaeth ac yn cywilyddio.