Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn adolygu’r drefn o dalu a cherdyn banc yn y Brifwyl ar ôl i broblemau godi gyda Maes B eleni.

Roedd dryswch yn sgil Eisteddfod Dinbych wrth i arian pobol ifanc a oedd wedi talu gyda cherdyn i gampio a gigio, gael ei ddychwelyd i’w cyfrifon – cyn cael ei dynnu allan eto am yr eildro.

Daeth i’r amlwg fod arian Maes B wedi mynd i gyfrif banc un o stondinwyr y Maes, Iola Edwards o’r Bala.

Cadarnhau’r amryfusedd

Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod wedi cadarnhau bod manylion anghywir wedi eu rhoi ar y peiriant cymryd pres gan olygu fod arian Maes B wedi mynd i gyfrif Iola Edwards.

“Rydan ni rwan yn gwybod beth sydd wedi digwydd, ond ddim yn hollol saff sut ddaru’r camgymeriad gael ei wneud,” meddai Elfed Roberts y Prif Weithredwr.

Mi fydd Prif Weithredwr yr Eisteddfod yn gofyn am eglurhad o’r “camgymeriad technegol” gan yr is-gontractwyr fu’n gyfrifol am y peirannau talu-efo-cerdun.

Mwy yng nghylchgrawn Golwg