Y Gwyll
Mae awdur drama dditectif newydd S4C, Y Gwyll – Hinterland, wedi ei ryfeddu gyda’r diddordeb rhyngwladol sydd wedi bod yn y fersiwn Gymraeg o’r gyfres dditectif.
Yn ôl Ed Thomas o gwmni Fiction Factory, mi fyddai’n llawer mwy “ffyddiog” erbyn hyn i ofyn am gyllid o ffynonellau rhyngwladol a Phrydeinig ar gyfer cyfres uniaith Gymraeg.
Y prif reswm am eu penderfyniad i greu fersiwn “gefn-wrth-gefn” Cymraeg a Saesneg o Y Gwyll oedd er mwyn denu buddsoddiad ychwanegol at y gyllideb roedd y cwmni yn ei gael gan S4C.
“Falle nawr dw i’n fwy ffyddiog… byddwn i yn fwy optimistig y gallen ni ddosbarthu stwff nawr yn Gymraeg ar ôl bod trwy’r profiad hyn, achos mae gymaint o bobol wedi dangos cyn gymaint o ddiddordeb ynddo fe,” meddai Ed Thomas.
Y cyfweliad yn llawn yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, ynghyd â chlipiau fideo ecsgliwsif o sgwrs Y Stori Dditectif yng Ngŵyl Golwg, lle bu Ed Thomas yn trafod y gyfres newydd, ar ap Golwg.
Dyma flas o’r sgwrs yng Ngŵyl Golwg isod.