Bydd gŵyl gerddoriaeth byd mwyaf o’i math yn dod i Gaerdydd eleni – ac i Gymru am y tro cyntaf erioed.

Rhwng 23 a 27 Hydref bydd y brifddinas yn llwyfannu 60 o gyngherddau gyda thros 300 o artistiaid ac arddangosfeydd gan 650 o gwmnïau o dros 90 o wahanol wledydd.

Cerdd Cymru fydd yn trefnu gwirfoddolwyr ar gyfer yr ŵyl ac maen nhw’n awyddus i recriwtio 150 o wirfoddolwyr i gynorthwyo dros y pedwar diwrnod.

Meddai Llinos Williams, cydlynydd gwirfoddolwyr Womex 13 i Cerdd Cymru: “Mae ‘na bob math o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael yn ystod yr ŵyl.

“Gweithio fel rhedwr yn trefnu anghenion y bandiau, yn cynorthwyo ar y stondinau a drysau neu  yn gweithio yn y swyddfa gynhyrchu.

“Mae posib hefyd cael lle yn helpu’r criw technegol neu gynorthwyo ymwelwyr o amgylch y ddinas.”

Ond mae Llinos Williams yn awyddus iawn i recriwtio siaradwyr Cymraeg i wirfoddoli yn yr ŵyl hefyd.

“Gyda chynrychiolwyr o dros 90 o wledydd gwahanol yn dod i Gaerdydd, rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig cael siaradwyr Cymraeg er mwyn dangos i bobol fod y Gymraeg yn iaith fyw sy’n cael ei defnyddio pob dydd yma yng Nghymru – ac mae’r manteision i wirfoddolwyr hefyd yn wych.”

Bydd yr holl wirfoddolwyr yn cael:

–          Band arddwrn ‘mynediad-i-bobman’ ar gyfer  yr holl ddigwyddiadau dydd yn ogystal â’r arddangosiadau cerddoriaeth/sesiynau DJ gyda’r nos.

–           Tocynnau pris gostyngol i nosweithiau’r wyl ar gyfer eu teuluoedd a’u cyfeillion

–          Bwyd a diod am ddim tra byddant yn gweithio.

–          Tocynnau teithio am ddim rhwng canolfannau.

Mae darpar wirfoddolwyr yn cael eu hannog i gysylltu â Cerdd Cymru – cerddcymru.com – am ffurflen gais a’i gwblhau erbyn 30 Medi 2013 fan bellaf.