Mae dyn 23 mlwydd oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yn dilyn damwain ffordd yng Nghasnewydd nos Sul.

Bu farw dyn 22 mlwydd oed o’r ardal, oedd yn gyrru car Audi S3 gwyn, yn  y ddamwain ar gylchfan Ffordd Balfe.

Cafodd dynes 21 mlwydd oed, oedd yn teithio yn y car ar y pryd, ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent lle mae hi’n parhau i gael triniaeth.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd i ffonio Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu rhif achos 493 15/09/13.