Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth babi chwe wythnos oed.

Cafodd Michael Pearce, sy’n 32 mlwydd oed, o Nelson ger Caerffili ei gyhuddo o ymosod ar y plentyn bron i dair wythnos yn ôl.

Bu farw Alfie Sullock, o’r Tyllgoed yng Nghaerdydd ar 20 Awst yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd y diwrnod ar ôl i Michael Pearce ymddangos yn y llys gan arwain at ymchwiliad i lofruddiaeth y babi.

Mae Michael Pearce yn cael ei holi gan Heddlu Gwent ar hyn o bryd.