Mae’r heddlu wedi arestio dyn 20 mlwydd oed ar amheuaeth o geisio llofruddio wrth iddyn nhw ymchwilio i saethu honedig yng Nghasnewydd.

Fe ddechreuodd ymchwiliad Heddlu Gwent yn dilyn  digwyddiad ar Ffordd Cas-gwent ar 3 Medi pan honnir bod gwn wedi cael ei danio o un cerbyd at gerbyd arall.

Cafodd tri o bobl eu cludo i’r ysbyty ar ôl i un o’r cerbydau fod mewn gwrthdrawiad.

Mae un dyn 22 oed, Lewis Bridge, eisoes wedi ymddangos gerbron ynadon Caerffili i wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio. Bydd yn ymddangos yn Llys Y Goron Casnewydd ddydd Iau.

Cafodd dau ddyn arall, 22 a 24, o Gasnewydd, eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio a’u rhyddhau ar fechnïaeth.

Nawr mae Heddlu Gwent wedi arestio pedwerydd dyn o ardal Casnewydd ar amheuaeth o geisio llofruddio. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Cafodd dau ddyn 22 a 24 oed o Gaerdydd hefyd eu harestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau mewn perthynas â’r digwyddiad. Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae Heddlu Gwent wedi apelio ar y cyhoedd am wybodaeth mewn cysylltiad â’r ymchwiliad.

Meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent: “Mae swyddogion yn parhau i wneud ymholiadau i ddod o hyd i’r arf a gafodd ei ddefnyddio yn y digwyddiad, yn ogystal â cherbyd jeep 4×4 lliw tywyll a welwyd yn gyrru ar hyd Ffordd Cas-gwent ac ymlaen i Heol Beechwood.

“Os oeddech yn yr ardal rhwng 11yh a hanner nos ar ddydd Mawrth 3 Medi a gyda gwybodaeth sy’n ymwneud â’r cerbyd neu’r digwyddiad, ffoniwch 101 gan ddyfynnu rhif 586 03/09/13 neu ffoniwch Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.”