Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gadael i gynghorau sir godi treth uwch ar ail dai.
Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad all arwain at ganiatáu i gynghorau lleol godi mwy o dreth cyngor ar dai gwag neu ail gartrefi.
Meddai Cymdeithas yr Iaith bod y syniad y bydd y Llywodraeth yn ymgynghori arno yn un o’r argymhellion polisi ym Maniffesto Byw’r mudiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad.
Mae’r Llywodraeth yn gofyn i awdurdodau lleol, pobl mewn cymunedau lleol a allai fod yn teimlo effaith ail gartrefi, perchnogion ail gartrefi, grwpiau cynghori, cyrff cynrychiadol, busnesau a’r trydydd sector i roi eu barn.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 28 Hydref.
‘Effaith negyddol’
Dywedodd Cen Llwyd, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith: “Mae’n glir bod ail dai yn effeithio’n negyddol ar wahanol agweddau o fywyd cymunedol, megis cynaliadwyedd gwasanaethau lleol a’r Gymraeg.
“Dylid rhoi’r hyblygrwydd i gynghorau sir adlewyrchu’r effaith honno yn eu polisïau treth. Mae’n un o dros 30 o argymhellion polisi yn ein Maniffesto Byw ac yn cael ei gefnogi gan fudiadau megis undeb y GMB hefyd. Yn wir, rydym wedi bod yn ymgyrchu ar hyn ers y saithdegau.
“Mae mewnfudo ac allfudo yn rhai o’r ffactorau sydd yn effeithio fwyaf ar sefyllfa’r Gymraeg yn ein cymunedau.
“Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, fe welwyd cwymp sylweddol yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae gadael i gynghorau godi treth uwch ar ail dai yn rhan o’r pecyn o newidiadau i’r system gynllunio ac economaidd sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod pawb yn cael byw yn Gymraeg.”