Mae cwest wedi cael ei agor a’i ohirio i farwolaeth dynes yn dilyn lladrad honedig yn ei chartref yn Llandudno.
Bu farw Carole Anne Wall, 58, yn yr ysbyty yn oriau man bore dydd Llun. Cafodd yr heddlu eu galw i’w thŷ yn Heol Dewi Sant am 11.30 nos Sul yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi torri i mewn.
Mae ’na awgrymiadau ei bod wedi marw yn dilyn “digwyddiad cardiaidd” yn ei chartref.
Mae dyn 36 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o ladrata.
Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un a oedd yn Ffordd Dewi Sant tua 11.15yh nos Sul ac a glywodd neu a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 neu’n ddienw i Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.