Bydd disgyblion ysgol gynradd dros Gymru’n cael y cyfle i geisio mewn cystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig i Undeb Amaethwyr Cymru.

Mae’r Undeb yn gwahodd plant rhwng 4 ac 11 i ddylunio cerdyn gyda golygfa Nadoligaidd a thema amaethyddol iddo ar gyfer y cardiau fydd yn cael eu gwerthu i godi arian i achosion da gan gynnwys Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones: “Bydd y gystadleuaeth yn cael ei beirniadu mewn dau gategori, Cymraeg a Saesneg. Gall plant ddefnyddio creon, pensiliau lliw, ffelt pen neu baent ond mae’n rhaid gwneud y dyluniad ar ddalen o bapur A4.

“Yr unig amod yw bod yn rhaid iddo fod yn gerdyn Nadolig gyda thema ffermio. Roedd y gystadleuaeth yn llwyddiant mawr y llynedd ac rydym yn gobeithio y gallwn unwaith eto gyfrif ar gefnogaeth ein hysgolion ledled Cymru.”

Bydd casgliad o’r cardiau gorau sydd wedi eu creu yn cael eu harddangos ar stondin Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod y Ffair Aeaf yn Llanelwedd eleni.

Y dyddiad cau yw Hydref 25 ac mae rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth ar gael ar wefan Undeb Amaethwyr Cymru: http://www.fuw.org.uk