Cyngor Sir Benfro
Mae Cyngor Sir Benfro wedi cymeradwyo cais cynllunio amlinellol ar gyfer 729 o dai ac archfarchnad yn Hwlffordd er gwaethaf pryderon gan fusnesau lleol.

Roedd adroddiad gan adran gynllunio Cyngor Sir Benfro wedi dweud y byddai’r datblygiad yn dod a budd economaidd a chymdeithasol i’r ardal ac yn adfywio’r dref ond mae gwrthwynebwyr o’r farn y bydd yr archfarchnad arall yn hoelen arall yn arch siopau bychain.

Mae cwmni Conygar, sydd y tu ôl i’r datblygiad, hefyd am weld gorsaf betrol ac archfarchnad Sainsbury’s, gyda maes parcio ar gyfer 541 o geir a 50 o feiciau, yn cael ei adeiladu yn y dref. Dywedodd y cwmni y byddai canran o’r tai yn rhai fforddiadwy.

Bore ‘ma, dywedodd y Cynghorydd Roy Thomas sy’n aelod o Gyngor Tref Hwlffordd wrth Golwg360 bod llawer mwy o gwestiynau i’w hateb cyn mynd ati i adeiladu.

“Bydd y datblygiad yn ychwanegu at broblemau presennol y dref. Mae’n rhaid i ni ddatrys y problemau hynny cyn derbyn cynllun ar gyfer rhywbeth mor fawr,” meddai.

Yn ôl y cynghorydd, mae siopau bach y dref mewn trafferthion yn barod ac ni fydd codi archfarchnad arall yn helpu hynny.

“Mae o’n golygu y bydd pentref arall yn cael ei ychwanegu i’r dref, mewn ffordd a dw i ddim yn credu ein bod yn barod am rywbeth fel yna.

“Rhaid gofyn o ble fydd perchnogion y tai yn dod? Lle fydden nhw’n gweithio? Mae ieuenctid yr ardal yn ei chael hi’n ddigon anodd i ddod o hyd i waith fel y mae hi.”