Mae nyrs fu’n gweithio mewn hosbis i blant yng Nghaerdydd wedi cael ei gwahardd rhag gweithio yn y proffesiwn meddygol am chwe mis ar ôl iddi roi negeseuon sarhaus ar Facebook.
Bu gwrandawiad o flaen y Cyngor Nyrsio a Bydwreica (NMC) yng Nghaerdydd yn ymwneud ag addasrwydd Allison Hopton i weithio.
Roedd y nyrs, yn hosbis Tŷ Hafan ger Caerdydd, wedi cyhoeddi negeseuon llawn rhegfeydd am ei gwaith ar y wefan gymdeithasol Facebook gan feddwl mai dim ond ei ffrindiau fyddai’n gweld y sylwadau.
Ond fe ymddangosodd y negeseuon ar ran cyhoeddus ei thudalen ar Facebook yn 2011.
Fe benderfynodd panel yr NMC bod negeseuon Hopton yn “hollol anaddas” ac yn adlewyrchu’n wael ar y proffesiwn.
Mewn llythyr at y panel, dywedodd Allison Hopton, oedd wedi gweithio yn Tŷ Hafan ers 2007 cyn cael ei gwahardd o’i swydd yn 2011, ei bod yn derbyn bod ei sylwadau yn “anghyfrifol ac yn wirion” a’i bod yn edifarhau.
Dywedodd cadeirydd y panel Susan Hurds nad oedd yn angenrheidiol i dynnu enw Allison Hopton o’r gofrestr nyrsio. Ychwanegodd bod ei gwahardd am chwe mis yn “briodol o dan yr amgylchiadau”.