Milwyr yn ymarfer ym Mannau Brycheiniog
Mae Heddlu Dyfed Powys sy’n ymchwilio i farwolaeth tri o filwyr o’r Fyddin Diriogaethol ym Mannau Brycheiniog yn bwriadu holi bron i 100 o filwyr wrth iddyn nhw ehangu eu hymchwiliad.

Bu farw Edward John Maher, 31, Craig John Roberts, 24, a  James Dunsby, 31 ar ôl cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi ar gyfer yr SAS ar fynydd Pen y Fan ar un o ddiwrnodau poetha’r flwyddyn.

Roedd nifer o filwyr eraill hefyd wedi cael eu taro’n wael ac wedi gorfod cael triniaeth feddygol.

Roedd llygad dystion wedi dweud eu bod wedi gweld milwyr yn apelio am ddŵr wrth i’r tymhered gyrraedd 29.5C ar 13 Gorffennaf.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi lansio ymchwiliad i farwolaethau’r tri milwr. Mae’r crwner hefyd yn cynnal ymchwiliad i weld a ddylai’r milwyr fod wedi cael eu diogelu’n well. Fe fydd y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch hefyd yn cynorthwyo gyda’r ymchwiliad.

Yn dilyn gwrandawiad yn Llys y Crwner Aberdâr heddiw dywedodd y Ditectif Arolygydd Iwan Jones y byddai’n cymryd wythnosau i gwblhau’r broses o gyfweld y milwyr.

“Ar ôl adolygu’r dystiolaeth rydym wedi penderfynu ehangu’r ymchwiliad. Rydym yn bwriadu cymryd datganiadau gan nifer sylweddol o filwyr – rhwng 94 a 96, y gwasanaethau brys ac aelodau o’r cyhoedd.”

Dywedodd y crwner Louise Hunt nad oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud hyd yn hyn ynglŷn â gwneud cyhuddiadau troseddol. Dywed yr heddlu eu bod yn gobeithio dod i benderfyniad erbyn diwedd mis Hydref.

Pwrpas y gwrandawiad heddiw yw rhoi gwybod i deuluoedd y milwyr am unrhyw ddatblygiadau.