Mae cynllun i annog busnesau lleol yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf wedi bod yn llwyddiant, yn ôl y trefnwyr.
Dros yr haf, bu myfyrwyr israddedig yn cynllunio ‘ap’ i 45 o fusnesau fel Sŵ Môr Môn, Inigo Jones a Y Bwtri, gyda chymorth cynllun Menter Môn, APPrentis.
Yn ôl Dafydd Gruffydd o Menter Môn:
“Cynllun peilot oedd hwn ac roeddwn yn ofni ei fod yn rhy uchelgeisiol. Ond mae’r cynllun wedi dangos fod modd creu ap syml gydag ychydig o hyfforddiant a’r agwedd iawn.”
Roedd Alaw Price yn cynllunio ap i’r Old Rectory on the Lake, ger Tywyn i roi gwybodaeth i gwsmeriaid am gynigion munud olaf.
Dywedodd Ricky Francis, y cyd berchennog, ei bod yn adnodd gwych i’r busnes.
“Mae hi hefyd wedi creu ap syml ond effeithiol fydd yn helpu i ni gynyddu cwsmeriaeth.”