Seamus Heaney
Mae teulu a ffrindiau’r bardd byd-enwog Seamus Heaney, a fu farw’r wythnos ddiwethaf, wedi ymgynnull yn Nulyn ar gyfer ei angladd.

Bu farw Seamus Heaney, a oedd yn 74 oed, yn yr ysbyty ddydd Gwener Awst 30 ar ôl dioddef salwch byr. Roedd yn cael ei adnabod fel y bardd gorau i ddod o Iwerddon ers W B Yeates.

Mae angladd Seamus Heaney yn cael ei gynnal yn Eglwys Gysegredig y Galon yn Donnybrook, i’r de o ddinas Dulyn ac mae disgwyl i Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins ynghyd â’r Taoiseach Enda Kenny fynychu’r angladd.

Bydd Seamus Heaney yn cael ei gladdu ym mhentref Bellaghy, Co Derry, lle gafodd ysbrydoliaeth ar gyfer nifer helaeth o’i waith.

Mae nifer o deyrngedau wedi cael eu rhoi i’r bardd, gan gynnwys rhai gan gyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton a ddisgrifiodd Seamus Heaney fel ‘un o’n lleisiau heddwch’.

Enillodd Seamus Heaney Wobr Nobel yn 1995.