Heddiw mae penwythnos o gerddoriaeth gyfoes yn Llanrwst yn cychwyn.

Mae Gŵyl Gwydir  yn dathlu ei phumed blwyddyn eleni. Yn ôl un o’r trefnwyr mae’n ŵyl eithaf unigryw ym myd cerddorol a diwylliannol Cymru, oherwydd nad yw’n derbyn unrhyw nawdd na grant o’r pwrs cyhoeddus.

Cychwynnodd Gŵyl Gwydir fel cwpwl o gigs a sesiynau tafarn yng nghanol Llanrwst yn 2009, gyda dim ond gorddrafft myfyriwr Gwion Schiavone wrth gefn petai hi wedi methu.

Bellach, mae criw bychan, ond brwdfrydig, o wirfoddolwyr yn trefnu’r ŵyl eleni gyda thri llwyfan a 26 artist yn perfformio dros ddeuddydd yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy, ger Llanrwst.

Risg ariannol pob blwyddyn

Meddai trefnydd Gŵyl Gwydir, Gwion Schiavone: “Mae dal yn risg ariannol sylweddol i ni pob blwyddyn wrth gwrs, ond y gobaith ydi fod sefydlu’r ŵyl fel digwyddiad blynyddol ar galendr ‘musos’ Cymru wedi lleihau’r risg yna rhywfaint o gymharu â’r blynyddoedd cynnar.

“Trwy beidio derbyn arian cyhoeddus, gellir ein disgrifio fel gŵyl hollol hunan cynhaliol yn y modd y bydd posib iddi barhau pob blwyddyn, dim ond bod yr un blaenorol heb wneud colled.”

Eleni bydd bandiau gan gynnwys Cowbois Rhos Botwnnog, Colorama, Sŵnami, Trwbador, Y Niwl, Yr Ods, Sen Segur, Candelas, R.Seiliog, Y Bandana a Georgia Ruth yn chwarae yn yr ŵyl.

Ond er bod Gŵyl Gwydir yn llwyddiant, dyw Gwion ddim yn erbyn rhoi cymorth ariannol i ddigwyddiadau diwylliannol a cherddorol.

Cefnogi digwyddiadau newydd

“Dw i’n cefnogi’r syniad o ddigwyddiadau newydd yn derbyn arian i sefydlu eu hunain, efallai dros dair blynedd,” meddai. “Ond mae gormod yn cael eu hariannu o flwyddyn i flwyddyn pan gall yr arian yna gyfrannu tuag at sefydlu 10 gŵyl fechan neu 40 o gigs unigol.”

Ond petai Gŵyl Gwydir yn tyfu eto mae Gwion o’r farn y byddai’n rhaid cysidro gwneud cais am grant oherwydd y costau sydd ynghlwm a gŵyl fawr fel yswiriant, trwydded a’r heddlu.

Ond, meddai Gwion Schiavone: “Ar hyn o bryd, rydan ni yn hapus iawn ein byd yn trefnu ar ein telerau ein hunain heb orfod ateb i neb, a heb ddibynnu ar neb  – oni bai am yr holl artistiaid a chynulleidfa wrth gwrs!”

Neithiwr
Cowbois Rhos Botwnnog, Colorama, Sŵnami, Paper Aeroplanes, Trwbador, Yr Ayes, Y Reu.

Sadwrn // £12 – 11:30 y bore tan ddau fore Sul
Y Niwl, Yr Ods, Sen Segur, Candelas, R.Seiliog, Y Bandana, Georgia Ruth, Alun Tan Lan, Gildas, Plu, Siddi, Threatmantics, Gwenno, Hud, Violas, Dan Amor, Casi Wyn, Eira.