Wrth i gylchgrawn Golwg ddathlu chwarter canrif o gyhoeddi, bydd y band Cymraeg Bob Delyn a’r Ebillion hefyd yn ddathlu eu pen-blwydd mewn gig sy’n rhan o Ŵyl Golwg nos Wener nesaf.

Mae’n 25 o flynyddoedd ers i Bob Delyn a’r Ebillion chwarae eu gig cyntaf yn 1988, ac mae Golwg wedi gwahodd y grŵp i nodi’r achlysur fel rhan o ddathliadau chwarter canrif y cylchgrawn yn Llanbedr Pont Steffan.

Cyntaf i’r felin gaiff gacen

I ddathlu, bydd yr hanner cant o bobl cyntaf sy’n cyrraedd y gig yn cael cacen pen-blwydd.

“Mae Golwg wedi bod yn ran canolog o gyhoeddi Cymraeg dros y chwarter canrif diwethaf, ac yn yr un modd mae Bob Delyn wedi bod yn ganolog i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg gyfoes dros yr un cyfnod,” meddai prif-weithrewdwr Gŵyl Golwg, Owain Schiavone.

Bydd y gig yn cael ei chynnal  yn Neuadd Gelfyddydau Prifysgol Llanbed ar nos Wener 6 Medi gyda Chowbois Rhos Botwnnog, Elin Fflur, Bromas, Mellt a Bob Delyn a’r Ebillion.