Mae’r bardd byd enwog Seamus Heaney wedi marw heddiw.

Roedd y Gwyddel yn 74 mlwydd oed a bu farw yn yr ysbyty wedi salwch byr.

Cafodd ei eni yn 1939 yn Derry, Gogledd Iwerddon a chafodd ei addysg ym Mhrifysgol Queens ym Melffast.

Cyhoeddwyd ei gasgliad mawr cyntaf o farddoniaeth, Death Of A Naturalist, yn 1966.

Yn 1995 derbyniodd y Wobr Nobel am Lenyddiaeth ac mae Canolfan Farddoniaeth Seamus Heaney ym Mhrifysgol Queens, Belfast yn deyrnged iddo.

Cyfweliad 2005

Dyma gyfweliad gyda Seamus Heaney  a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Golwg adeg ei ymweliad â Gŵyl Tŷ Newydd yn 2005.

Yma mae’n trafod ystyr dwyieithrwydd i fardd, a sut mae barddoni pan fo terfysg rhyfel o’ch cwmpas…

A yw meddu ar ddealltwriaeth o ddwy iaith o fantais i fardd sy’n sgrifennu mewn un iaith? A ydi’r ymateb i ystyr a synau geiriau yn fwy craff rywffordd?

SH: Mae fy syniad i o ieithoedd ar wahân i Saesneg yn deillio o fy addysg ysgol uwchradd – Gwyddeleg a Ffrangeg a Lladin hyd at Lefel A – felly dw i ddim yn ddwyieithog. Dw i’n meddwl byddai’n rhaid i chi fod yn ddwyieithog i ateb rhan gynta’ eich cwestiwn mewn gwirionedd.

Ond dw i’n gwybod o brofiad be’ mae’r rhan fwya’ o bobol yn ei wybod i raddau mwy helaeth neu i raddau llai, bod ymwybyddiaeth o etymoleg yn dyfnhau ac yn hogi eich synnwyr geiriau, a bod elfen ffonetig geiriau yn rhan annatod o’u defnydd barddol.

Os dweda i farraige yn y Wyddeleg, mae mwy o froc môr a gwymon yn ’y ngheg nag os dweda i ‘sea’ yn Saesneg. Ar y llaw arall os d’weda i ‘the ocean’ yn Saesneg, mae ’na fwy o ymchwydd mythig yn codi o’r moroedd Aegeaidd a’r Canoldir nag os d’weda i ‘an fharraige mhór’ yng Ngwyddeleg.

Fe allech chi siarad am hyn hyd ddiwedd y byd. Gadewch i mi ddyfynnu dau fardd arall ar y pwnc.

Fe dd’wedodd y diweddar Vincent Buckley, o Awstralia, unwaith, yn syml, mai pwrpas iaith yw agor y drws i ragor o iaith. Ac roedd Joseph Brodsky yn arfer dweud mai’r hyn roedd e’n ei alw’n ‘ddyfais epig’ oedd iaith, fod ei hacwstigs yn ddiwylliannol ac yn seicolegol, a bod hanes yn treiddio drwyddi fel ton fagnetaidd ac mai barddoniaeth felly oedd ‘hanfod diwylliant y byd.’

Be’ yw’r cydbwysedd o ran sgrifennu mewn iaith leiafrifol fel Gwyddeleg neu Gymraeg ac eisiau i’ch barddoniaeth gael ei deall yn fyd-eang – gan wybod eich bod wedi cyfieithu rhai o gerddi Cathal Ó Searcaigh?

SH: Mae eisiau iddi gael ‘ei deall yn fyd-eang’ yn rhywbeth fyddwch chi’n meddwl amdano wedyn, ac yn rhywbeth dealladwy, wrth gwrs, ond yn dal yn eilradd i’r weithred gynradd o sgrifennu.

Prif fusnes y bardd yw’r gerdd, sy’ eisiau amgyffred ei hun a bodoli ar ei liwt ei hun, diolch i’w allu ef neu ei gallu hi fel artist.

Dw i’n amau ’taech chi’n gofyn i Cathal neu unrhyw fardd arall p’un a fyddai gwell ganddo greu gwaith perffaith o’r newydd yn yr iaith ‘leiafrifol’ neu sicrhau ‘dealltwriaeth eang’ am waith mae eisoes wedi’i sgrifennu, mi fuasai’n dewis y gwaith newydd.

Ond, wedi dweud hynny, mae ein dealltwriaeth ni o farddoniaeth yn Iwerddon wedi’i chyfoethogi ac fy nealltwriaeth i o allu wedi’i wella drwy gyfieithiadau o waith Cathal.

Gan wybod eich bod wedi ennyn ymateb dros ddegawdau i’r gwaith a sgrifennoch yn ystod yr helyntion yng ngogledd Iwerddon, a yw tensiwn mewn cenedl yn helpu creadigedd? A yw e’n hwb neu a yw’n gwneud i rai teimladau fod yn ddibwys? Be’ ydych chi’n meddwl yw rôl bardd ar adegau felly?

SH: Os yw’r frwydr a’r tensiwn y tu allan i chi gynddrwg ag y bod anhrefn y byd wedi’i orfodi arnoch chi fel anhrefn yn’och chi, yna fe allech chi ddweud bod ’na ryw hwb creadigol yn y sefyllfa. Mae’n rhaid i chi ymateb i a chyfleu alawon y glust yn hytrach nag alawon y dorf – ‘attending to and trying to bring forth ‘heard’ rather than ‘herd’ melodies’.

Rôl y bardd ar adegau cythryblus ac ar bob adeg, yn yr ystyr mwya’ cyffredin a’r ystyr mwya’ coeth, yw brathu’i geg, gan wybod yn iawn bod ’na wirionedd yn y ddau ddatganiad yma, er eu bod yn gwrthddweud ei gilydd.

Yn gynta’, datganiad arall gan Brodsky: ‘If art teaches us anything, it’s that the human condition is private.’ Ac yn ail, llinell gan Czeslaw Milosz: ‘What is poetry that does not save nations or people?

Broagh

Riverbank, the long rigs
ending in broad docken
and a canopied pad
down to the ford.

The garden mould
bruised easily, the shower
gathering in your heelmark
was the black O

in Broagh,
its low tattoo
among the windy boortrees
and rhubarb-blades

ended almost
suddenly, like that last
gh the strangers found
difficult to manage.

o’r casgliad Wintering Out (1972), Seamus Heaney, h. Faber and Faber Ltd