Mae BBC Cymru wedi amddiffyn eu penderfyniad i anfon un o ohebwyr Newyddion 9 drosodd i Sbaen ddechrau’r wythnos i adrodd ar saga gwerthu/peidio gwerthu Gareth Bale  i Real Madrid.

Yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon mae William H Owen, cyn-olygydd Y Cymro, yn barnu bosus rhaglen Newyddion 9 y BBC ar S4C am fethu â rhoi unrhyw sylw i gemâu Uwch Gynghrair Cymru ar eu rhaglen nos Lun. Roedd y gemâu wedi eu chwarae y prynhawn hwnnw.

Meddai Mr Owen yn ei lythyr: ‘Ni chlywyd yr un gair am ganlyniadau’r chwe gêm yn y bwletin hwnnw.  Beth gawson ni oedd adroddiad – eto fyth – o Sbaen am hynt Gareth Bale.  Doedd affliw ddim newydd i’w ddweud ar wahân fod rhywun arall heblaw Real Madrid ar ei ôl.  Hanner brawddeg oedd ei angen i adrodd hynny.  Fel arall, roedd cynnwys yr adroddiad hwn gan Rhodri Llywelyn, a’i anfon i Sbaen yn y lle cyntaf, yn wastraff llwyr ar arian ac adnoddau.

‘Sut y gall BBC Cymru gyfiawnhau gwario arian y drwydded fel yma a methu â chrybwyll canlyniadau Uwch Gynghrair y wlad y mae nhw’n ei gwasanaethu?   Beth bynnag, mae’n syndod fod ganddynt arian ar ôl wedi gwario mor helaeth ar anfon gohebwyr i fod yn adar corff yn Ne Affrica lle’r oedd Nelson Mandela yn ymladd yn llwyddiannus am ei fywyd.’

BBC Cymru

Meddai’r BBC: “Mae’r stori am drosglwyddiad Gareth Bale fel chwaraewr druta’r byd yn stori sydd o ddiddordeb mawr i’n cynulleidfa, ac mae Newyddion 9 wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf i  wylwyr yn y Gymraeg. Mae chwaraeon yn rhan annatod o’n gwasanaeth Newyddion, ac  fel rhan o’r gwasanaeth yma,  fe roddwyd sylw hefyd i gynghrair Cymru yn yr wythnos cyn dechrau’r tymor, a chyfweliad byw gyda’r Ysgrifennydd o’r gem agoriadol ym Mhrestatyn nos Wener.”

Y llythyr yn llawn yn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn Golwg.