Dewi Prysor. Llun: Cwmni Da
Mae cwmni cynhyrchu teledu o Wynedd wedi darganfod ffotograffau o bwysigrwydd cenedlaethol wrth ffilmio cyfres ar gyfer S4C.

Wrth ffilmio rhaglen arbennig o’r gyfres Darn Bach o Hanes fydd yn edrych ar y cyswllt Cymreig yn hanes y diwydiant recordio cerddoriaeth daeth Cwmni Da ar draws lluniau o Margaret Breese, y ferch a ganodd ar y recordiad cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg.

Llwyddodd ymchwilwyr y gyfres i ganfod disgynnydd i Madge a Trevor oedd â chasgliad o luniau o’r gantores yn ei feddiant; lluniau sydd erioed wedi cael eu gweld yn gyhoeddus o’r blaen.

Roedd Margaret Breese o Borthmadog yn nith i Trevor Lloyd Williams, gŵr a oedd yn wreiddiol o Feirionnydd ac yn fuddsoddwr yn yr United States Gramaphone Company.

Pan ddaeth cyfle i Trevor Williams ddewis artist i recordio ar y label gofynnodd i’w nith, Madge ddod i Lundain i ganu tair cân Gymraeg.

Ar Fawrth 11eg, 1899, yn y stiwdio recordio ger Covent Garden, recordiodd Madge dair cân i’r label sef Ar Hyd y Nos, Clychau Aberdyfi, a Hen Wlad Fy Nhadau. Ystyrir y sesiwn hon gan haneswyr yn un arloesol, ac arwyddocaol, gan mai dyma pryd y cafodd yr iaith Gymraeg ei recordio am y tro cyntaf.

“Ychydig iawn o bobol sy’n sylweddoli mai Cymro sefydlodd label gerddorol gynta’ Prydain, a’r stiwdio recordio gynta’ ym Mhrydain,” Meddai Dewi Prysor, awdur a chyflwynydd y gyfres.

“I bob pwrpas, y boi yma oedd yn gyfrifol am osod seilia’ y diwydiant recordia’ modern yn eu lle.”

Ychwanegodd Euros Wyn, cynhyrchydd y rhaglen, “Er na fedrwn ni fod yn gwbl sicr pa un o’r tair cân gafodd ei recordio gynta’, mae archifwyr EMI o’r farn bod eu system rhifo yn awgrymu mai’r anthem genedlaethol oedd hi … sy’n serendipaidd a deud y lleia’!”

I glywed yr hanes yn ei gyfanrwydd gwyliwch Darn Bach o Hanes: Ar Record, heno am 8.25pm ar S4C neu ar s4c.co.uk/clic am 35 diwrnod wedyn.