Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod yn Aberafan ddoe.

Mi gafodd y corff ei ddarganfod ar dir diffaith ger caeau chwaraeon tua 4.30 prynhawn ddoe.

Mae’r Heddlu wedi datgan pnawn ’ma nad yw’r farwolaeth yn cael ei ystyried fel un amheus ac nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall ynglyn â’r darganfyddiad.