Gareth Bale
Mae rheolwr tîm pêl-droed Tottenham, Andre Villas-Boas, wedi dweud ei fod o’n gobeithio y bydd yr holl drafod hirwyntog sydd wedi bod dros yr haf am ddyfodol Gareth Bale yn dod i ben heddiw neu yfory.
Mi wnaeth Spurs guro Abertawe ddoe ond doedd Bale ddim yn y gêm. Roedd yn Marbella ar ôl iddo gael y penwythnos i ffwrdd.
Os na fydd cytundeb ynglŷn â Bale yn ymuno â thîm Real Madrid yn digwydd heddiw, yna mae Villas-Boas yn dweud ei fod o’n disgwyl i Bale fod yn ei ôl yn hyfforddi gyda gweddill aelodau tîm Spurs yfory.