Llanandras (Richard Webb CCA2.0)
Mae heddlu’n ymchwilio ar ôl i bobol ddod o hyd i ddyn gydag anafiadau difrifol mewn cae mewn tref fechan yn y Canolbarth.

Mae’r dyn 42 oed bellach yn yr ysbyty ar ôl cael ei gario yno mewn ambiwlans ac mae heddlu wedi dechrau ar ymchwiliad fforensig o’r ardal.

Fe gafodd y dyn ei weld yn y cae, Wents Meadow, yn Llanandras, Powys, a gwaith cynta’r heddlu fydd deall sut y cafodd ei frifo.

Mae swyddogion hefyd yn holi pobol yn yr ardal ynglŷn â’r digwyddiad.

Maen nhw’n apelio am dystion – dylai unryw un sydd â gwybodaeth gysylltu ar y ffôn ar 101.