Dieter Wolke (o wefan Prifysgol Warwick)
Mae plant sy’n cael eu bwlio yn gallu diodde’ o’r effeithiau am flynyddoedd ar ôl tyfu’n oedolion, meddai ymchwil newydd.

  • Mae’n dangos fod plant a gafodd eu bwlio ddwywaith yn fwy tebyg na’r gweddill o fynd yn ddifrifol  wael  a deirgwaith yn fwy tebygol o gael salwch meddwl.
  • Roedd plant a oedd wedi diodde’ ond wedyn wedi troi i helpu’r bwlis yn diodde’ mwy fyth – a chwech gwaith yn fwy tebyg o gael salwch ac afiechyd meddwl.
  • Roedd y rheiny’n llai tebyg o lwyddo’n economaidd hefyd tra oedd plant a gafodd eu bwlio’n fwy tebygol o smygu a cham-ddefnyddio alcohol a chyffuriau.
  • Roedd problemau eraill yn codi tros gael perthnasau iach gyda phobol eraill, yn enwedig ymhlith y rhai a drodd yn fwlis.

‘Nid rhywbeth diddrwg’

“Rhaid i ni roi’r gorau i drin bwlio fel petai’n rhywbeth diddrwg, anorfod bron, ac yn rhan o dyfu i fyny,” meddai’r Athro Dieter Wolke o Brifysgol Warwick, arweinydd y tîm o seicolegwyr a fu’n holi  1,420 o blant ar chwech achlysur pan oedden nhw rhwng 9 ac 16 oed.

Roedden nhw wedi eu holi ymhellach rhwng 24 a 26 oed er mwyn holi sut yr oedden nhw’n gwneud erbyn hynny.

Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Psychological Science, yn galw am ymyrraeth i atal bwlio, gan ddileu’r angen y mae rhai’n ei deimlo i fwlio eraill.