Poster yn erbyn ffracio (o wefan The Vale Says No)
Mae protestwyr o Gymru ymhlith yn rhan o’r ymgyrch werdd lle mae Aelod Seneddol wedi cael ei harestio.
Mae criwiau o brotestwyr o dde Cymru wedi cyrraedd Balcombe yn Sussex i brotestio yn erbyn cynlluniau i ffracio am nwy siâl.
Yn ystod y prynhawn, fe gafodd yr AS Gwyrdd a chyn arweinydd y blaid, Caroline Lucas, ei harestio er nad yw’n glir eto a fydd hi’n cael ei chyhuddo o ddim.
Criwiau o Gymru
Mae negeseuon trydar gan brotestwyr yn sôn am y criwiau’n dod o Gymru, lle mae pryder penodol am gynlluniau ffracio ym Mro Morgannwg.
Mae trigolion un pentref – Llantrithyd – yn aros am adroddiad gan swyddogion cynllunio Cyngor Bro Morgannwg ynglŷn â chais i archwilio yno.
Mae pentrefwyr Llandw hefyd yn protestio yn erbyn bwriad cwmni o Ben-y-bont i chwilio am nwy siâl.