Alun Davies
Fe fydd £30,000 yn cael ei wario ar gael gwared ar gwm cnoi o strydoedd yn Abertawe – rhan o gyfanswm o bron £1 miliwn sy’n cael ei roi at dacluso Cymru.
Mae’r cynllun i osod 50 o finiau gwm ar draws y ddinas yn rhan o gyhoeddiad gan y Gweinidog Adnoddau Naturiol Alun Davies.
Fe fydd 74 o gynlluniau eraill hefyd yn cael arian, gan amrywio o wella llwybrau yn Amlwch i roi biniau gwastraff mwy yn rhai o drefi glan môr Ceredigion.
Fe fydd tua thri chwarter yr arian yn mynd at gynlluniau sydd dan ofal cynghorau lleol a’r gweddill at brosiectau cymunedol.
Mae clirio baw ci a chael gwared ar blanhigion tramor yn feysydd poblogaidd eraill, ynghyd â thwtio llecynnau blêr ac atal tipio sbwriel yn anghyfreithlon.
‘Gwirioneddol bwysig’
“Mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn teimlo’n falch o’r ardaloedd ble’r ’yn ni’n byw,” meddai Alun Davies. “Mae problemau fel tipio anghyfreithlon, baw ci a sbwriel yn gallu cael effaith wael ar fywydau pobol.”