Bydd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn edrych ar y modd y bu i’r heddlu ymwneud efo cwpwl fu’n rhan o achos o saethu ddoe yng Nghasnewydd.

Cafodd plismyn arfog eu galw i Seabreeze Avenue oddi ar Stryd Willenhall yng Nghasnewydd am 8.45 fore ddoe.

Cafodd dyn a dynes eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, ond bu farw’r ddynes 46 oed.

Mae’r dyn 49 oed yn cael llawdriniaeth. Roedd y ddau wedi bod yn briod ond wedi gwahanu, a bydd y Comisiwn Cwynion yn edrych ar y cyswllt gafodd yr heddlu gyda’r cwpwl cyn y digwyddiad ddoe.

Ymchwilio’r heddlu

Cafwyd hyd i wn ar y safle, ac mae’r Heddlu wedi cau Seabreeze Avenue a Stryd Willenhall tra bod ymchwiliad fforensig yn parhau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Huw Nicholas: “Mae hwn yn achos trasig ac ein blaenoriaeth yw rhoi’r gefnogaeth briodol i deuluoedd rheiny sydd yn rhan ohono, ac ymchwilio i ddarganfod beth ddigwyddodd y bore yma.”

“Gallaf ddweud bod y ddau wedi bod mewn perthynas a oedd wedi denu sylw’r heddlu. Am y rheswm yma rydym ni wedi cyfeirio’r mater i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.”