Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r milwr fu farw ym Mannau Brycheiniog tra’n ymarfer gyda’r Fyddin Diriogaethol ddydd Sadwrn.
Bu farw’r Is-Gorpral Craig Roberts yn ystod sesiwn ddethol ar gyfer SAS y Fyddin Diriogaethol wrth i’r tymheredd gyrraedd 29.5C.
Bu farw milwr arall, tra bod un arall mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Athro Mathemateg o Fae Penrhyn ger Llandudno oedd Craig Roberts, ac fe fu’n byw yn Lewisham yn ne-ddwyrain Llundain ers rhai blynyddoedd.
Ar wefan Facebook, dywedodd ei ffrind Leighton Parry Owen: “Hollol syfrdan am y newyddion am Craig.
“Roedd e’n un o’m ffrindiau pennaf yn tyfu i fyny, fe gawson ni gymaint o amserau da gyda’n gilydd.
“Roedd e wir yn un o’r dynion mwyaf didwyll a gofalgar wnes i gwrdd â fe erioed.”
Mae’r heddlu a’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ymchwilio i farwolaethau’r ddau.
Yn dilyn y marwolaethau, mae cwestiynau wedi codi am ddulliau hyfforddi’r SAS, ond dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn nad yw’r dulliau’n debygol o newid.
Yn gynharach eleni, cafodd capten o’r Fyddin ei ddarganfod wedi marw ar fynydd Corn Du.
Roedd Rob Carnegie wedi bod yn cymryd rhan mewn taith gerdded 17-40 milltir mewn tywydd rhewllyd yn y Bannau fel rhan o broses ddethol y Fyddin.