Mae Aelodau Seneddol Prydain wedi beirniadu arafwch yr ymchwiliad i’r sgandal cig ceffyl, chwe mis wedi i’r broblem ddod i’r golwg.
Mae Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi galw am sicrwydd gan yr awdurdodau y byddan nhw’n gweithredu pe bai digon o dystiolaeth ar gael i erlyn y sawl sy’n gyfrifol am yr helynt.
Ond 1% yn unig o’r cig a gafodd ei brofi oedd yn cynnwys cig ceffyl.
Ledled yr Undeb Ewropeaidd, 4.66% o’r cig a gafodd ei brofi oedd yn cynnwys olion y cig.
Dywedodd y pwyllgor fod “diffyg eglurder” o hyd ynghylch pwy sy’n gyfrifol am yr helynt, pan gafodd olion y cyffur ‘bute’ eu darganfod yn y cig.
Galwodd y pwyllgor am sicrhau bod symudiadau ceffylau ledled Ewrop yn cael eu rheoli’n well.
Dywedodd llefarydd ar ran y pwyllgor bod “rhwydwaith cymhleth a hynod drefnus” ar waith, gyda chwmnïau’n labelu cig yn anghywir ac yn anghyfreithlon er mwyn cuddio twyll.
Ychwanegodd fod y pwyllgor yn “bryderus am fethiant yr awdurdodau yn y DU ac Iwerddon i gydnabod graddau hyn ac i erlyn”.
Dywedodd llefarydd ar ran Defra: “Mae’n hollol anghywir bod unrhyw fusnes yn gallu twyllo’r cyhoedd trwy adael i gig ceffyl gael ei labelu’n gig eidion.
“Dyna pam ein bod ni wedi sefydlu arolwg annibynnol i nodi unrhyw wendidau yn y gadwyn cyflenwi bwyd neu’r system reoleiddio er mwyn atal hyn rhag digwydd eto.”
Mae’r heddlu’n dal wrthi’n ymchwilio i’r helynt.