Protestiadau yn America
Cafodd 13 o bobl eu harestio yn dilyn trafferthion yn ystod protest yn erbyn rhyddhau dyn a saethodd lanc croenddu’n farw yn America.

Cafwyd George Zimmerman, gwirfoddolwr gwarchod cymdogaeth yn America, yn ddieuog o lofruddio Trayvon Martin ym mis Chwefror 2012.

Roedd Zimmerman, 29 oed, wedi dadlau ei fod yn amddiffyn ei hun pan saethodd Trayvon Martin, 17 oed, yn Florida, er nad oedd gan y llanc arf yn ei feddiant.

Mae penderfyniad y rheithgor wedi arwain at brotestiadau heddychlon ar draws America. Ond neithiwr roedd carfan fechan o brotestwyr wedi achosi trafferthion yn Los Angeles.

Mewn cynhadledd newyddion yn Los Angeles neithiwr dywedodd pennaeth yr heddlu, Charlie Beck, bod tua 150 o bobl wedi gadael y brotest gan achosi trafferthion ar y strydoedd gerllaw.

Cafodd mwy na 300 o blismyn eu galw i’r safle a chafodd 13 o bobl eu harestio.

Er nad oedd yr heddlu wedi ymyrryd yn y brotest neithiwr er mwyn dod a diwedd heddychlon iddi, fe rybuddiodd Charlie Beck a byddai’r heddlu’n ymateb yn fwy llym os oedd y protestiadau’n parhau am noson arall.