Byron Davies
Wrth ymateb i’r newyddion bod y Swyddfa Twyll Difrifol yn ymchwilio i’r broses o werthu 16 darn o dir cyhoeddus, mae Aelod Cynulliad Ceidwadol De Orllewin Cymru, Byron Davies wedi dweud bod “angen bod yn dryloyw ac agored”.
Byron Davies oedd wedi gofyn i Swyddfa Archwilio Cymru ymchwilio i’r mater.
Yn ôl adroddiadau, mae gwerth £20 miliwn o dir wedi cael ei werthu, ond fe allai fod wedi costio llawer mwy i drethdalwyr.
Mae’r penderfyniad i werthu’r tir yn breifat yn hytrach nag mewn ocsiwn wedi cael ei feirniadu, a dyna ganolbwynt yr ymchwiliad.
Cafodd yr holl ddarnau o dir eu gwerthu gyda’i gilydd yn hytrach nag fel darnau unigol o dir.
Un o’r darnau o dir a gafodd ei werthu oedd tir fferm 120 acer gyhoeddus ger Llysfaen yng Nghaerdydd.
Bwriad Cyngor Caerdydd yw codi tai ar y safle.
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais i godi 370 o dai ar ddarn arall o dir, ond maen nhw’n dal i aros am sêl bendith i’r cynlluniau.
Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwneud cais i godi 94 o dai ar safle gwerth £100,000 yn Y Pîl.
Mae’r Cynulliad eisoes yn cynnal dau ymchwiliad i’r mater.
‘Sicrhau gwerth am arian ar gyfer trethdalwyr’
Dywedodd Byron Davies: “Yn amlwg, mae’r ymchwiliad yn parhau i geisio darganfod beth yn union ddigwyddodd yn yr achos hwn a pham fod y trethdalwr yn ymddangos fel pe bai wedi colli miliynau o bunnoedd.
“Mae tryloywder a bod yn agored yn hanfodol wrth waredu ar arferion gwael a sicrhau gwerth am arian ar gyfer trethdalwyr sy’n wynebu talcen caled.
“Gobeithio y bydd yr ymchwiliadau hyn yn nodi lle mae’r drwgweithredu ac yn gosod allan y gwersi y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru eu dysgu er mwyn osgoi gwastraffu miliynau o bunnoedd o arian y trethdalwyr unwaith eto yn y dyfodol.”