Mae siop posh Waitrose wedi gwerthu 596% yn fwy o setiau swingball ers i Wimbledon ddechrau, gyda buddugoliaeth yr Albanwr Andy Murray yn cael ei weld yn ffactor amlwg ym mhoblogrwydd y polyn gyda’r bêl-ar-gortyn yn rhwym iddo.

Ffactor arall ym mhoblogrwydd y swingball yw’r tywydd braf.

Ers i Hari’r Haul ddod allan i chwarae mae Waitrose wedi gwerthu 450% yn fwy o siarcol, 316% yn fwy o Pimms, 262% yn fwy o eli haul a 140% yn fwy o seidar.

Yn ystod yr wythnos yn gorffen ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 6, roedd y siop wedi gwerthu £125.8 miliwn o nwyddau, o gymharu efo £109.8 miliwn yn yr un cyfnod y llynedd. Dim ond dros y Dolig a’r Pasg y bu i’r siop werthu mwy.