Mae adolygiad o fwyd ysgol gynradd yn Lloegr wedi casglu bod dros hanner y plant yn dewis dod â phecynnau bwyd efo nhw.

A dim ond 1% o’r pecynnau bwyd sy’n rhai maethlon, gyda dau o bob tri yn cynnwys creision a melysion.

Yn ôl gwaith ymchwil roedd 90% o brifathrawon yn credu bod bwyd maethlon yn cael effaith uniongyrchol ar berfformiad plant yn yr ysgol, ac mae argymhelliad wedi’i wneud heddiw i roi cinio ysgol am ddim i bob disgybl oed cynradd yn Lloegr er mwyn codi safonau yn y dosbarth.

Bydd Llywodraeth Prydain yn ystyried y cynlluniau gan Henry Dimbleby a John Vincent, perchnogion bwytai Leon a gafodd y gwaith o ymchwilio i’r arlwy yn yr ysgolion gan y Gweinidog Addysg Michael Gove.

Biliwn o bunnau

O roi’r argymhellion ar waith, mi fyddai tair miliwn yn ychwanegol o blant oed cynradd yn derbyn cinio am ddim ar gost o bron i £1 biliwn.

Meddai Mr Dimbleby: “Mae safon y bwyd mewn ysgolion yn llawer gwell ers dyddiau du’r Turkey Twizzler deng mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud. Ar hyn o bryd mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gwario £6 biliwn ar afiechydon sy’n gysylltiedig efo bwyd, ac mae 20% o blant yn dew iawn erbyn eu bod yn gadael ysgol gynradd.”