Mae disgwyl cyhoeddiad ynglŷn â phryd fydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar y fferm wynt fwyaf yng Nghymru a Lloegr yn ddiweddarach heddiw.
Mae prosiect ynni gwynt Pen y Cymoedd wedi’i leoli rhwng Castell Nedd ac Aberdâr yng Nghymoedd y De a bydd yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Davey, yn ymweld â’r safle i wneud y cyhoeddiad.
Mae disgwyl iddo gyhoeddi pa gytundebau fydd ar gael i gwmnïau lleol, a rhyngwladol, fel rhan o’r datblygiad hefyd.
Cafodd y prosiect ganiatâd yr Ysgrifennydd Ynni’r llynedd ac mae gweithwyr wedi bod wrthi’n clirio coed o’r safle.
Mae disgwyl i Ed Davey ddatgan y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn y flwyddyn newydd ac mae’r cwmni sydd y tu ôl i’r prosiect – Vattenfall sy’n berchen i Lywodraeth Sweden – wedi dweud y byddan nhw’n disgwyl i’r melinau gwynt fod yn weithredol erbyn 2016.
Bydd y cwmni yn rhoi buddsoddiad o tua £1.8 miliwn i’r gymuned leol bob blwyddyn ac mae Vattenfall hefyd wedi dweud y gallai’r prosiect fod yn werth mwy na £1 biliwn i’r economi.
Ond mae trigolion lleol wedi lleisio pryder am nifer y melinau gwynt fydd ar y safle.