Y Shard yn Llundain
Mae grŵp o brotestwyr Greenpeace wedi dechrau dringo adeilad y Shard yn Llundain bore ‘ma.
Dechreuodd y chwe phrotestiwr ddringo’r adeilad 72 llawr yn gynnar y bore yma.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu Metropolitan: “Cawsom ein galw am 04:20yb heddiw at grŵp o brotestwyr oedd yn ceisio dringo i fyny’r Shard.
“Rydym yn monitro’r sefyllfa ynghyd â Heddlu Trafnidiaeth Prydain.”
Credir bod y grŵp wedi cyrraedd y strwythur drwy ddringo ar do gorsaf London Bridge sydd gerllaw.
Dywedodd datganiad ar gyfrif Twitter Greenpeace UK: “Edrychwch i fyny Llundain. Rydyn ni’n ceisio dringo’r Shard, adeilad uchaf Ewrop.”
Credir bod y chwech o fenywod yn protestio yn erbyn cwmni Shell ac yn galw arnyn nhw i roi’r gorau i chwilio am olew yn yr Arctig.
Mae Greenpeace hefyd wedi postio llun o’r dringwyr gyda’i gilydd gan eu henwi fel Sabine, Sandra, Victo, Ali, Wiola a Liesbeth.
Dywedodd llefarydd ar ran y Shard: “Mae’r Shard yn cael ei ddefnyddio gan y protestwyr fel rhan o ymgyrch.
“Ein prif ffocws yw diogelwch y protestwyr, y gweithwyr ac ymwelwyr i’r adeilad.
“Rydym yn gweithio gyda’r awdurdodau perthnasol i geisio sicrhau diogelwch y rhai dan sylw.”