Peter Moore
Mae Llys Iawnderau Dynol Ewrop wedi penderfynu heddiw bod carcharu troseddwyr am oes heb y posibilrwydd o adolygu’r ddedfryd yn mynd yn groes i hawliau dynol.

Mae’r llofrudd Peter Moore o Fae Cinmel, ynghyd a’r llofruddwyr Jeremy Bamber a Douglas Vinter, wedi ennill apêl yn  Uwch Siambr Llys Iawnderau Dynol Ewrop ar ôl iddyn nhw ddweud bod eu dedfrydau yn “annynol.”

Ond mae’r barnwyr wedi dweud nad yw’r penderfyniad yn golygu y bydd y tri yn cael eu rhyddhau ar barôl yn y dyfodol agos.

Roedd barnwyr yn Llys Iawnderau Dynol Ewrop yn Strasbwrg wedi gwrthod cais y tri ym mis Ionawr ond fe gytunodd Uwch Siambr y llys i glywed ail apêl ac fe gyhoeddwyd y penderfyniad y bore ma.

Douglas Vinter, a oedd wedi trywanu ei wraig ym mis Chwefror 2008, oedd wedi gwneud yr apêl i’r Uwch Siambr. Roedd hynny’n golygu bod achos Peter Moore, a lofruddiodd pedwar dyn hoyw ym 1995, a Bamber, a lofruddiodd ei rieni, ei chwaer a’i dau blentyn ym 1985, hefyd yn cael eu hystyried.

O dan y gyfraith bresennol, mae’n annhebyg y bydd carcharorion sydd wedi cael dedfryd oes yn cael eu rhyddhau o’r carchar am fod eu troseddau’n cael eu hystyried yn rhai mor ddifrifol.

Cafodd llofrudd April Jones,  Mark Bridger o Fachynlleth, a Dale Cregan, a laddodd dwy blismones ym Manceinion, eu carcharu am oes yn ddiweddar.

Mae 49 o bobl yng Nghymru a Lloegr  wedi eu dedfrydu i garchar am oes.