Mae disgwyl i’r Gweinidog Iechyd gyhoeddi cynlluniau i ddiwygio’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn ddiweddarach heddiw.

Bydd cyhoeddiad Mark Drakeford yn dod yn dilyn problemau mawr i’r gwasanaeth yng Nghymru a  phryder bod staff yn digalonni oherwydd hynny.

Bythefnos yn ôl roedd y ffigyrau diweddaraf wedi dangos bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi methu cyrraedd eu targedau am y 12fed mis yn olynol.

Roedd y ffigyrau’n dangos mai dim ond 62.5% o ambiwlansys oedd wedi ateb y galwadau mwyaf argyfyngus  o fewn 8 munud, tra bod y targed yn 65%.

Ym mis Ebrill cafodd adolygiad o’r gwasanaeth ei gyhoeddi oedd yn dweud bod angen newidiadau mawr yn y ffordd mae’n cael ei reoli.

Argymhellion

Yr Athro Siobhan McClelland, academydd iechyd, oedd yn cadeirio’r adolygiad ac roedd yn edrych ar strwythur, rheolaeth sefydliadol, ariannu a pherfformiad y gwasanaeth.

Ymysg yr argymhellion, roedd rhoi rhagor o hyfforddiant i barafeddygon fel eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau ynglŷn â lles cleifion, ac ailwampio targedau perfformiad.

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig tri gwahanol fodel  am y modd mae’r gwasanaeth yn cael ei rheoli yn y dyfodol.

–          Y cyntaf oedd rhedeg y gwasanaeth fel bwrdd iechyd ar wahân sy’n cael ei gyllido yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

–          Yr ail opsiwn oedd bod y gwasanaeth ambiwlans yn cael ei chomisiynu gan Fyrddau Iechyd ond gydag amcanion a gweithdrefnau cliriach.

–          Byddai trydydd dewis yn gweld Byrddau Iechyd unigol yn gyfrifol am y gwasanaeth ambiwlans yn eu hardal a fyddai’n gweld ei ddiddymu fel gwasanaeth Cymru gyfan.

Mae disgwyl y cyhoeddiad gan Mark Drakeford y prynhawn ma.